title
stringlengths
10
68
lang
stringclasses
1 value
source_name
stringclasses
2 values
format
stringclasses
4 values
category
stringclasses
1 value
cefr_level
stringclasses
2 values
license
stringclasses
1 value
text
stringlengths
9
2k
Uned 1 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Helô, Eryl dw i. Pwy dych chi? B: Bore da, Ceri dw i. Sut dych chi? A: Da iawn, diolch. Sut dych chi? B: Iawn, diolch. A: Hwyl, Ceri! B: Hwyl.
Uned 1 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: O na, yr heddlu! (Stopio'r car) B: Hello, hello, hello. A: Cymraeg, plîs. B: O, helô, helô, helô. A: Prynhawn da, cwnstabl. B: Prynhawn da. Pwy dych chi? A: Ceri Llwyd dw i. B: Ceri Llwyd, y gitarydd? A: Ie, sut ... B: Y gitarydd gyda band Y Pandas Pinc? A: Ie. B: Y Pandas Pinc. Waw... A: Problem gyda'r car, cwnstab...
Uned 1 - Sgwrs 3
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Bore da. Sut dych chi? B: Iawn, ond wedi blino heddiw. A: Ble dych chi'n byw nawr? B: Abertawe. A: Abertawe? A dych chi'n dysgu Cymraeg yma! B: Dyna pam dw i wedi blino. Dw i'n gyrru yma. A: Paned? B: Ie, plîs.
Uned 2 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Noswaith dda, Eryl. Sut wyt ti? Eryl: Da iawn, diolch. A sut wyt ti? Ceri: Wedi blino. Eryl: Wyt ti'n mynd i'r dosbarth salsa yfory? Ceri: Ydw, wrth gwrs! Dw i'n lico'r dosbarth salsa. Eryl: Da iawn! Hwyl, Ceri. Ceri: Nos da.
Uned 2 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Bore da. B: Hmff. A: Sut dych chi heddiw? B: Ofnadwy. Dw i ddim yn lico dydd Llun. A: Coffi? B: Ych a fi. Dw i ddim yn lico coffi. A: Te? B: Iawn. A: Llaeth? B: Ych a fi. Dw i ddim yn lico llaeth. Reit, ble dw i'n gweithio? A: Gweithio? Ym, dw i ddim yn siŵr. Pwy dych chi, plîs? B: Williams, y bòs newydd. A: O? Ne...
Uned 3 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Noswaith dda. Beth dych chi eisiau? B: Pysgodyn a sglodion, os gwelwch chi'n dda. A: Dych chi eisiau finegr? B: Ydw, plîs. A: Dych chi eisiau halen? B: Dim diolch. A: Dych chi eisiau rhywbeth arall? B: Potel o lemonêd, os gwelwch chi'n dda. A: Dyma chi. Pum punt, os gwelwch chi'n dda. B: Dyma chi. A: Diolch.
Uned 3 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Dych chi eisiau paned? B: Mm, diolch yn fawr. Coffi, plîs. A: Dych chi eisiau llaeth a siwgr? B: Ydw, llaeth a chwech siwgr. A: Dyma chi. Dych chi eisiau cacen? B: Dim diolch. Dw i'n slimo.
Uned 4 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: O ble rwyt ti'n dod yn wreiddiol? Chris: Dw i'n dod o America. Ceri: Ble yn America? Chris: Dw i'n dod o Los Angeles. Ceri: Wel, wel, dw i'n lico Los Angeles. Dw i'n mynd yno ar wyliau bob haf. Chris: Wyt ti'n nabod Ioan Ifans o Gaerdydd? Ceri: Ydw, wir! Dw i'n aros gyda Ioan weithiau. Chris: Wel, wel, dw i'n myn...
Uned 4 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Beth wyt ti'n wneud y penwythnos 'ma? B: Dw i'n mynd i Lundain ar y trên bore dydd Gwener. A: Pryd? B: Pump o'r gloch y bore. Dw i'n mynd i Stockholm yn y prynhawn. A: O ble rwyt ti'n hedfan? B: O Heathrow. Dw i'n mynd i weld tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn Sweden nos Wener. A: Ble rwyt ti'n aros? B: Dw i ddim yn ...
Uned 5 - Sgwrs
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Beth wnaethoch chi ddoe? B: Arhosais i yn y tŷ. A: Beth wnaethoch chi yn y tŷ, 'te? B: Golchais i'r car yn y bore, garddiais i yn y prynhawn ac wedyn darllenais i'r papur. A: A beth wnaethoch chi gyda'r nos? B: Edrychais i ar y teledu yn y lolfa. A: Wnaethoch chi swper? B: Naddo. Gyrrais i i'r siop i brynu têcawê!
Uned 6 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Noswaith dda, sut wyt ti heno? B: Ofnadwy. A: Mae hi'n wlyb heno. B: Mae hi'n ofnadwy. A: Sut mae'r teulu? B: Ofnadwy. A: Sut mae'r gwaith? B: Ofnadwy. A: Sut mae'r dosbarth Cymraeg yn mynd? B: Bendigedig.
Uned 6 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Eryl: Pryd mae'r cyfarfod pwysig? Ceri: Heno. Eryl: Iawn. Ble mae e? Ceri: Yn Neuadd y Dre. Eryl: Pryd mae e'n dechrau? Ceri: Chwech o'r gloch. Eryl: Pryd mae e'n gorffen? Ceri: Dw i ddim yn gwybod. Tua naw o'r gloch? Eryl: Wyt ti'n mynd? Ceri: Ydw, wrth gwrs. Ond dw i'n gadael am saith o'r gloch. Eryl: Pam? Ceri: Mae'...
Uned 6 - Ymarfer
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Bore da. Mae hi'n braf heddiw. B: Ydy, mae hi'n braf iawn. Dw i'n mynd i'r parc. A: Hyfryd, hwyl!
Uned 6 - Barn 1.1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n hoffi bocsio? B: Ydw, mae e'n grêt.
Uned 6 - Barn 1.2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n hoffi bocsio? B: Mae e'n iawn.
Uned 6 - Barn 1.3
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n hoffi bocsio? B: Nac ydw, mae e'n ofnadwy.
Uned 6 - Barn 2.1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n licio'r ffilm? B: Ydw, mae hi'n fendigedig.
Uned 6 - Barn 2.2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n licio'r ffilm? B: Mae hi'n iawn.
Uned 6 - Barn 2.3
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti ti'n licio'r ffilm? B: Nac ydw, mae hi'n ddiflas.
Uned 6 - Barn 3.1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n hoffi'r grŵp? B: Ydw, maen nhw'n fendigedig.
Uned 6 - Barn 3.2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n hoffi'r grŵp? B: Maen nhw'n iawn.
Uned 6 - Barn 3.2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n hoffi'r grŵp? B: Nac ydw, maen nhw'n swnllyd.
Uned 7 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Wyt ti'n dod i'r theatr heno? Eryl: Dw i ddim yn siŵr. Dw i wedi blino. Ceri: Ond mae pawb o'r dosbarth yn mynd. Eryl: Dw i ddim yn hoffi pantomeim a dweud y gwir. Ceri: Mae e'n grêt! Eryl: Nac ydy, dyw e ddim! Mae e'n dwp. Ceri: Dyw e ddim yn dwp! Eryl: O ydy, mae e…! Ceri: Dyw e ddim! Eryl: Ac mae e'n ddrud iaw...
Uned 7 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Wyt ti'n mynd i'r cyfarfod y prynhawn 'ma? B: Nac ydw, dw i'n brysur. Ond mae Siôn yn gallu mynd. A: Iawn, dim problem. Wyt ti'n gallu mynd i'r cyfarfod mawr dydd Mercher? B: Pryd mae e? A: Deg o'r gloch. B: Nac ydw, dw i'n brysur iawn bore dydd Mercher. Ond mae Siôn yn gallu mynd, dw i'n siŵr. A: Mae Siôn yn gallu ...
Uned 8 - Ffonio'r banc
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Bore da, banc Llanaber. B: Gaf i siarad â Mr Jones os gwelwch chi'n dda? A: Cewch wrth gwrs. .... Dyma Mr Jones i chi nawr. A: Bore da, Banc Abercastell. B: Gaf i siarad â Ms Morgan, os gwelwch chi'n dda? A: Un funud. Mae'n ddrwg gyda fi, dyw hi ddim yma heddiw. B: Dim problem. A: Dych chi eisiau ffonio'n ôl yfory? ...
Uned 8 - Ffonio'r ysgol
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Prynhawn da, Ysgol y Bryn. B: Gaf i siarad â'r pennaeth, os gwelwch chi'n dda? A: Mae'n ddrwg gyda fi, dyw e ddim ar gael. Mae e mewn cyfarfod yng Nghaerdydd y bore 'ma. B: Ydy e'n gallu ffonio'n ôl? A: Ydy, wrth gwrs. Mae e'n ôl yn yr ysgol yfory. B: Ydy e'n gallu ffonio yn y bore? Dw i'n mynd mas yn y prynhawn. A:...
Uned 8 - Ffonio'r theatr
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Derbynnydd: Noswaith dda. Theatr yr Aber. Sam: Gaf i docynnau i'r ddrama nos yfory? (cyngerdd) Derbynnydd: Cewch, wrth gwrs. Sam: Faint ydyn nhw? Derbynnydd: Deg punt yr un. (£5) Sam: Gaf i bedwar tocyn os gwelwch chi'n dda? (7) Derbynnydd: Cewch, wrth gwrs. Sam: Gaf i dalu nos yfory? Dw i eisiau rhaglen hefyd. Derbynn...
Uned 9 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Mam: Rwyt ti'n edrych yn ofnadwy y bore 'ma. Beth wnest ti neithiwr? Sam: Es i mas gyda ffrindiau. Mam: I ble? Sam: I glwb newydd yn y dre. Gadawon ni'r clwb am bedwar o'r gloch! Mam: Dyna pam rwyt ti'n edrych yn ofnadwy 'te! Sam: Ac yna prynon ni gyrri. Mam: Ond dwyt ti ddim yn lico cyrri! Sam: Dw i'n gwybod. Cyrhaedd...
Uned 9 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Helo Gwyn, sut mae'r cwrs Cymraeg yn mynd? B: Grêt, diolch. 'Dyn ni'n gwneud Uned 9 yr wythnos yma. A: Wyt ti'n siarad Cymraeg mas o'r dosbarth? B: Dw i'n trio gwneud tipyn bach yn Gymraeg bob dydd, a dw i'n adolygu ar-lein. A: Sut mae'n mynd? B: Mmm... yn eitha da. Siaradais i Gymraeg ar y bws dydd Llun, ond siarad...
Uned 10 - Ymarfer - Ble aethoch chi?
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Ble aethoch chi neithiwr? B: Aethon ni i Abertawe neithiwr. A: Pam aethoch chi i Abertawe? B: Aethon ni i weld gêm. A: Ble aethoch chi ddoe? B: Aethon ni i Gaerdydd. A: Pam aethoch chi i Gaerdydd? B: Aethon ni i siopa. A: Ble aethoch chi dydd Sadwrn? B: Aethon ni i Borthcawl. A: Pam aethoch chi i Borthcawl? B: Aetho...
Uned 10 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Pen-blwydd hapus, Eryl! Eryl: Diolch. Ceri: Ble est ti dros y penwythnos, 'te? Eryl: Es i i'r tŷ bwyta newydd ym Mangor nos Sadwrn. Ceri: Neis iawn! Gyda phwy est ti? Eryl: Es i gyda Jo a Chris. Ceri: Aethoch chi i rywle wedyn? Eryl: Do, aethon ni i'r sinema. Ond aethon ni ddim i mewn... Ceri: Pam? Eryl: Mae Chri...
Uned 10 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Gaf i air? B: Cei, wrth gwrs. A: Sut aeth y cyfarfod neithiwr? B: Dw i ddim yn gwybod. Es i ddim. Es i mas am dro. A: Est ti ddim? B: Naddo. A: Aeth Ceri ddim chwaith. B: Naddo? Beth am Siôn a Siân? A: Na, aethon nhw ddim chwaith. B: Wel, wel, ofnadwy. A: Gwelais i rywbeth ar Facebook y bore 'ma. Sam yw'r capten new...
Uned 11 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Helô Eryl, sut wyt ti? Est ti i'r dre ddoe? Eryl: Naddo, pam? Ceri: Mae siop Lewis Huws yn cau. Eryl: O, trueni! Dw i'n lico'r siop yna yn fawr. Maen nhw'n gwerthu popeth! Ceri: Ond newyddion da. Maen nhw'n symud i siop fawr yn y parc siopa y mis nesa. Eryl: Wel, mae'n anodd parcio yn y dre…. Ceri: Ces i fargen -...
Uned 11 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Helô! Sut mae'r cadw'n heini'n mynd? B: Yn eitha da, diolch. Es i i'r gwaith ar y beic bob dydd yr wythnos diwetha ac es i mas i redeg dydd Sadwrn a dydd Sul. A: Beth gest ti i fwyta trwy'r wythnos? B: Ces i uwd i frecwast a ches i gawl i ginio bob dydd. A: Da iawn ti. B: A bod yn onest, es i mas i fwyta nos Wener a...
Uned 11 - Yn y dosbarth
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Ces i uwd i frecwast heddiw. B: O! Ces i wy ar dost. C: Ches i ddim brecwast o gwbl! Ces i goffi du. Dw i ddim yn hoffi bwyta yn y bore.
Uned 11 - Yn y swyddfa
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Ces i gawl llysiau i ginio heddiw. B: O! Ces i frechdan gaws. C: Ches i ddim cinio o gwbl! Ces i baned o de a bisged siocled. Dw i eisiau bwyd!.
Uned 11 - Yn y dafarn
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Ces i gyrri a reis i swper neithiwr. B: O? Ces i gyrri hefyd ond ches i ddim reis. Ond ces i fara naan. C: Ces i bysgod a sglodion - dw i ddim yn hoffi cyrri o gwbl.
Uned 12 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Helô? Eryl: Helô Ceri, Eryl yma. Mae cwestiwn gyda fi. Faint o'r gloch mae'r bore coffi dydd Sadwrn? Ceri: Deg o'r gloch. Mae poster gyda fi yma. Eryl: Da iawn. Dw i'n gallu mynd i'r bore coffi felly, ond mae cyfarfod gyda fi am hanner dydd. Ceri: Dw i'n gallu cyrraedd am un ar ddeg ar y bws. Gwela i ti yna. Eryl...
Uned 12 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Oes teulu mawr gyda chi? B: Mae pump brawd a saith chwaer gyda fi. A: Oes plant gyda chi? B: Mae saith o blant gyda ni. A: Oes anifeiliaid gyda chi? B: Mae pedwar ci gyda ni. A: Dych chi'n gallu mynd ar wyliau teulu? B: O ydyn, 'dyn ni'n mynd i Aberaeron bob haf. Mae carafán gyda ni yno. A: Sut dych chi'n mynd i Abe...
Uned 13 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Sut roedd y parti priodas neithiwr? Pat: Roedd e'n grêt! Roedd y gwesty'n braf, roedd y bwffe'n flasus a chawson ni amser gwych. Ceri: A sut roedd y pâr priod? Pat: Hapus iawn. Ceri: Oedd pawb yno? Pat: Doedd y plant bach ddim yno, wrth gwrs, ond roedd pawb arall yno. Ceri: Sut roedd mam Twm? Pat: Iawn. Roedd hi'...
Uned 13 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Felly, Mr Williams, beth weloch chi? B: Gwelais i rywun yn rhedeg mas o'r banc. A: Faint o'r gloch oedd hi? B: Saith munud wedi dau. A: Dw i'n gweld. Reit, gweloch chi rywun yn rhedeg mas o'r banc am saith munud wedi dau. Dyn oedd e? B: Nage. Er, dw i ddim yn siŵr. Roedd cot fawr gyda hi, a balaclafa. A: Oedd hi'n c...
Uned 14 - N/A
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Ble ro't ti neithiwr? Galwais i yn y tŷ. B: Ro'n i yn y gwaith. Cyrhaeddais i adre am ddeg o'r gloch. A: Ble ro't ti prynhawn ddoe? Es i i'r gêm. B: Ro'n i yn y gwely - yn dost. Pwy enillodd? A: Ni, wrth gwrs. 5-0.
Uned 14 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Chris: Ble dych chi'n byw nawr? Pat: Dw i'n byw ym Margoed. Chris: Wel, wel! Dw i'n byw ym Margoed hefyd. Byd bach. Pat: Dych chi'n lico Bargoed? Chris: Ydw. Ro'n i eisiau byw yng Nghaerffili ond dw i'n lico Bargoed yn fawr. Pat: Ble ro'ch chi'n byw cyn symud i Fargoed? Chris: Ro'n i'n byw yn y Barri. Pat: Wel, wel, do...
Uned 14 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Rhys? B: Yn siarad. A: Pennaeth yr ysgol yma. Pam dwyt ti ddim yn yr ysgol ar hyn o bryd? B: Roedd annwyd arna i dydd Llun a dydd Mawrth. A: Est ti i'r feddygfa i gael papur doctor? B: Naddo. Ro'n i'n well dydd Mercher, ond roedd apwyntiad deintydd gyda fi dydd Mercher. A: Trwy'r dydd? B: Ie. Mae'r deintydd ym Mryst...
Uned 15 - Sgwrs 1 - Yn y swyddfa
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Chris: Bore da. Wyt ti eisiau paned? Jo: Coffi du, plîs. Dw i angen caffîn. Roedd y traffig yn ofnadwy y bore 'ma. Chris: Sut aeth y cyfarfod tîm ddoe? Jo: Da iawn. Trafodon ni'r cyfarfod mawr nesa gyda'r staff. 'Dyn ni'n mynd i gael y cyfarfod ym Mhontypridd. Chris: Pryd? Jo: Y mis nesa, gobeithio. Beth wyt ti'n wneud...
Uned 15 - Sgwrs 2 - Yn y llyfrgell
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Llyfrgellydd: Prynhawn da. Eryl: Prynhawn da. Dw i eisiau benthyg Teithiau Cerdded Cymru gan Eryl Hughes. Oes copi gyda chi, os gwelwch chi'n dda? Dw i ddim yn gallu gweld dim byd ar y silff. Llyfrgellydd: Roedd dau gopi gyda ni ddoe. Un funud - dw i'n gallu edrych ar y cyfrifiadur. Eryl: Diolch. Roedd darn yn Lingo am...
Uned 15 - Sgwrs 3
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Derbynnydd: Bore da, gaf i helpu? Chris: Bore da. Mae problem gyda fi. Derbynnydd: Ydy'r ddannodd arnoch chi? Chris: Nac ydy, ond anghofiais i ddod i apwyntiad ddoe. Derbynnydd: Beth yw'r enw? Chris: Chris Jones. Derbynnydd: Gyda phwy roedd yr apwyntiad? Chris: Gyda Mrs Dent. Derbynnydd: Pryd roedd yr apwyntiad? Chris:...
Uned 15 - Sgwrs 4
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Helô, cariad; croeso adre. Gest ti ddiwrnod da yn y gwaith? B: Naddo. A: Trueni. O't ti'n brysur ofnadwy? B: O'n. A: Oedd y staff yn grac eto heddiw? B: O'n. A: Est ti mas amser cinio? B: Naddo. A: Gest ti frechdan yn y swyddfa? B: Do. A: Wyt ti eisiau bwyd? B: Ydw. A: Ydy stêc yn iawn? B: Ydy. A: Beth wyt ti eisiau...
Uned 16 - Sgwrs yn y Siop
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Faint yw'r llyfr yna, os gwelwch chi'n dda? Sam: Pedair punt naw deg naw. Ceri: Ddim yn rhy ddrwg. Gaf i brynu un, os gwelwch chi'n dda? Sam: Wrth gwrs. Dyma chi. Pedair punt naw deg naw, os gwelwch chi'n dda. Ceri: A faint yw'r calendr? Sam: Dim ond dwy bunt pum deg! Ceri: Mae hynny'n dda. Gaf i ddau, os gwelwch...
Uned 17 - Sgwrs
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Derbynnydd: Bore da, gaf i helpu? Chris: Gaf i siarad â'r bòs? Derbynnydd: Dyw e ddim yma heddiw. Mae e ar wyliau yn y Bahamas. Chris: Pryd bydd e'n ôl? Derbynnydd: Fydd e ddim yn ôl tan wythnos i ddydd Mawrth. Chris: Gaf i adael neges? Derbynnydd: Cewch, wrth gwrs. Chris: Chris Ellis dw i. Dw i'n gweithio yn swyddfa A...
Uned 18 - Ynganu
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Gaf i siarad â Ceri Prys, os gwelwch chi'n dda? B: Mae'r lein yn brysur. Dych chi'n gallu ffonio'n ôl mewn chwarter awr? A: Nac ydw... Ydy Dafydd Elis i mewn? B: Mae e mewn cyfarfod. Bydd e yn y swyddfa ar ôl tri o'r gloch. A: Beth am Ann Davies, 'te? B: Dyw hi ddim yn y gwaith, mae'n ddrwg gyda fi. Mae hi ar wyliau...
Uned 18 - Gwrandewch ar y ddeialog a llenwch y grid
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Jo: Fyddi di'n mynd i'r dre heddiw? Chris: Bydda. Jo: Fyddi di'n gallu prynu un neu ddau o bethau i fi? Chris: Bydda, wrth gwrs. Beth wyt ti eisiau? Jo: Fyddi di'n gallu prynu ffrwythau o'r farchnad? Chris: Iawn, wrth gwrs. Jo: Dw i angen trwsio'r esgidiau 'ma. Fyddi di'n gallu mynd â nhw i siop Mr Clark? Chris: Wel, o...
Uned 18 - Darllen
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
Mae'r gair eisteddfod yn dod o ddau air Cymraeg - eistedd a bod. Mae bardd (poet) yn ennill cadair mewn seremoni. Roedd eisteddfodau ers llawer dydd yng Nghymru ond roedd yr Eisteddfod Genedlaethol “fodern” gyntaf yn 1861 yn Aberdâr. Erbyn heddiw mae dros 150,000 o bobl yn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn....
Uned 19 - Sgwrs
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Mam: Wyt ti wedi gorffen pacio? Sam: Ydw… bron iawn… Mam: Da iawn. 'Dyn ni'n mynd mewn hanner awr. 'Dyn ni'n hedfan am un ar ddeg o'r gloch heno. Sam: Mam! Mam: Ie? Sam: Ble mae fy nghês i? Mam: Ar y gwely wrth gwrs! Sam: Ble mae fy fflip-fflops i? Mam: Dan y gwely, siŵr o fod. Sam: Ble mae fy mrws dannedd i? Mam: Yn y...
Uned 20 - Sgwrs - Chi a Ti
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Ble mae eich tei chi? B: Pa dei? A: Eich tei du chi. B: Dw i ddim yn cofio. A: Ydy e yn eich tŷ chi? B: Fallai, ond fallai ddim. A: Neu ydy e gyda eich tad chi? B: Dw i ddim yn siŵr. A: Bobl bach! Ydy eich tei du chi yn eich tŷ chi neu gyda eich tad chi? B: Does dim syniad gyda fi.
Uned 21 - Deialogau gyda phlant 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Mam/Dad: Bydd yn ofalus ar y ffordd i'r ysgol. Plentyn: Pam? Mam/Dad: Dyna pam!
Uned 21 - Deialogau gyda phlant 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Mam/Dad: Cer i'r gwely nawr. Plentyn: Pam? Mam/Dad: Dyna pam!
Uned 21 - Deialogau gyda phlant 3
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Mam/Dad: Dere i helpu yn y gegin. Plentyn: Pam? Mam/Dad: Dyna pam!
Uned 21 - Deialogau gyda phlant 4
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Mam/Dad: Gwna dy wely di. Plentyn: Pam? Mam/Dad: Dyna pam!
Uned 21 - Ynganu - Darllenwch y ddeialog yma:
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Prynhawn da, Theatr De Cymru. B: Prynhawn da. Ydy hi'n bosib prynu dau docyn i'r ddrama nos yfory, os gwelwch chi'n dda? A: Ydy, wrth gwrs. Ble dych chi eisiau eistedd? B: Dw i ddim yn siŵr. Mae fy nhad i'n hen, a dyw e ddim yn gallu cerdded yn dda. A: Eisteddwch wrth y drws, mae digon o docynnau ar gael. B: Hyfryd....
Uned 21 - Sgwrs
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Arholwr: Reit, trowch i'r dde yma. Ewch mas o'r maes parcio. Ewch yn araf. Gyrrwch yn ofalus! Arafwch... Peidiwch ag edrych ar eich ffôn chi! Edrychwch ar y ffordd! Arafwch... Arhoswch wrth y... Brêciwch nawr! Stopiwch! Parciwch yma - nawr! Mr Evans: Ydw i wedi pasio? Arholwr: Pasio? Nac ydych wir! Mr Evans: Pam? Arhol...
Uned 22 - Sgwrs 1
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Ceri: Bore da, Ms Davies-Hughes. Sut roedd y daith yma heddiw? Ms. D-H: Roedd y traffig yn ofnadwy unwaith eto. Mae'n gas gyda fi yrru ar y ffordd fawr ar fore Llun. A dweud y gwir, mae'n gas gyda fi bob bore Llun. Ceri: Dych chi eisiau paned? Ms. D-H: Mewn munud. Ble mae fy mhost i? Ceri: Ar y ddesg, yn eich swyddfa c...
Uned 22 - Sgwrs 2
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Fyddi di'n mynd i'r cyfarfod mawr yr wythnos nesa? B: Dw i ddim yn siŵr. Pwy sy'n mynd? A: Dw i'n mynd. B: Pryd mae e? A: Chwech o'r gloch. B: Ble mae e? A: Yn y gwesty mawr drws nesa i'r orsaf yn y dre. B: Beth sy'n digwydd ar ôl y cyfarfod? A: Mae swper gyda siaradwr. B: Gaf i lifft? A: Cei, wrth gwrs. B: Grêt. By...
Uned 22 - Sgwrs 3
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Pennaeth: Bore da bawb. Croeso i'r cyfarfod. Croeso arbennig i Twm Tomos o swyddfa Abercastell. Twm Tomos: Diolch. Pennaeth: Dych chi wedi bod yn Swyddfa Caerheli o'r blaen Twm? Twm Tomos: Nac ydw. Pennaeth: Twm, dyma Rhian, Ryan, Rhys, Rhodri a Rhiannon. Twm Tomos: Siaradwch yn araf os gwelwch chi'n dda. Pennaeth: Pei...
Uned 23 - Sgwrs
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Eryl: Dw i'n caru Tad-cu, ond mae e'n grac iawn heddiw. Jo: Ydy, mae e wedi bod at y doctor. Mae tipyn bach o beswch arno fe. Eryl: Beth ddwedodd y doctor? Jo: Rhaid iddo fe stopio smocio. Eryl: Dw i'n cytuno, mae sigaréts yn ddrud, ac mae peswch arno fe ers wythnosau. Jo: Canu gormod yn y clwb ar ôl y gêm rygbi, yn ôl...
Uned 23 - Ynganu
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Prynhawn da, dych chi'n iawn? B: Mae tipyn o broblem gyda fi a dweud y gwir. Dw i ddim yn gwybod ble mae fy nghar i. A: Ydy e yn y maes parcio mawr? B: Nac ydy. Parciais i ar y stryd, tu fas i siop bapurau. A: Pa siop bapurau? Mae pedair siop yn yr ardal. B: Maen nhw'n adeiladu tai newydd dros y ffordd, os dw i'n co...
Uned 24 - Ynganu
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Noswaith dda. Sut dych chi heno? B: Wedi blino. Roedd hi'n brysur iawn yn y gwaith heddiw. Ar ôl i fi ddod adre, cysgais i am awr ar y soffa. A: Ble dych chi'n gweithio? B: Dw i'n gweithio fel gyrrwr ambiwlans yn yr ysbyty. A: Pryd dechreuoch chi? B: Tair wythnos a hanner yn ôl, ar ôl i fi orffen fy nghwrs coleg. A:...
Uned 24 - Sgwrs - Yn y Sêl Cist Car
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Carys: Gaf i barcio fy nghar i yma? Bill: Cewch, wrth gwrs. Dych chi wedi bod mewn sêl cist car o'r blaen? Carys: Nac ydw, ond cyn i ni symud tŷ mae'n syniad da i ni werthu tipyn o bethau. Bill: I ble dych chi'n symud? Carys: I Aberystwyth. Bill: Braf iawn. Ro'n i'n arfer byw yn Aberystwyth. Dyna ble dysgais i Gymraeg....
Uned 25 - Sgwrs 1 - Yn y Tŷ Bwyta - Bwyty Bwyd y Byd
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Noswaith dda. Croeso i fwyty 'Bwyd y Byd'. Dych chi ar eich pen eich hun? B: Mae'n ddrwg iawn gyda fi, mae fy ffrind i, Jen, yn mynd i fod yn hwyr iawn. A: Wel, 'dyn ni'n brysur iawn… bwrdd i un, felly? B: Na, dw i eisiau bwrdd i ddau. A: Iawn. Mae'r pysgod wedi mynd, ond mae un pryd arbennig ar ôl ar y fwydlen. B: ...
Uned 25 - Sgwrs 2 - Yn y caffi
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Prynhawn da. On'd yw'r tywydd yn ofnadwy! B: Ydy wir, mae hi'n stormus iawn, on'd yw hi? Mae'r gwynt yn ofnadwy. A: Dw i wedi bod yn cerdded am oriau! Oes bwyd poeth ar gael yma? B: Nac oes, mae'n ddrwg gyda fi, 'dyn ni'n cau mewn hanner awr. A: Oes brechdanau, 'te? B: Oes, mae brechdanau cyw iâr gyda ni... O na, ma...
Uned 25 - Ynganu
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Noswaith dda. Croeso i Dŷ Bwyta'r Ddraig. B: Diolch yn fawr. Ydy hi'n bosib cael bwrdd i ddau, os gwelwch chi'n dda? A: 'Dyn ni'n llawn ar hyn o bryd, mae'n ddrwg gyda fi. B: Mae hi'n brysur iawn yma. Fydd rhaid i ni aros yn hir? A: Tua awr, fallai. B: Mae popeth yn edrych yn hyfryd, ond dw i eisiau bwyd nawr. A: Ma...
Uned 26 - Ynganu
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Arweinydd: Tawelwch, os gwelwch chi'n dda. Dyma'r plentyn nesa i ganu yng Nghyngerdd Nadolig Llandudoch. Mam-gu/Tad-cu: On'd yw hi'n edrych yn bert? Arweinydd: Heulwen Huws yw ei henw hi. Mae hi wedi dod â'r pianydd o'i hysgol hi, Ysgol Hafod y Coed. Mam-gu/Tad-cu: Da iawn, Mrs Prydderch. Arweinydd: Mae hi'n saith oed....
Uned 26 - Sgwrs
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A. Dych chi'n nabod Elwyn Evans? B. Elwyn Evans. Oedd ei dad e'n blismon yn Llanelli ers llawer dydd? A. Oedd. Dyna chi. B. Mae ei bartner e'n gweithio yn y Cyngor Sir. A. Ydy. Dyna chi. B. Mae ei blant e yn ysgol Abercastell. A. Ydyn. Dyna chi. B. Aeth ei frawd e i Awstralia neu rywle. A. Do, i Seland Newydd. Dyna chi...
Uned 27 - Ynganu
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Mae Bryn Terfel yn dod o Bant-glas yng Ngogledd Cymru yn wreiddiol ac mae e wedi gweithio'n galed iawn i lwyddo ym myd opera. Erbyn hyn, mae e'n canu dros y byd. Aeth e i'r coleg yn y Guildhall yn Llundain ble enillodd e'r fedal aur. Dechreuodd e weithio i Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn 1990 pan ganodd e Cosi Fan Tu...
Uned 27 - Sgwrs - Yn Siop Y Gornel
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
A: Helô 'na! Esgusodwch fi, ond beth yw pris y cylchgrawn yma? B: Dwy bunt yw pris y cylchgrawn yna. Bargen! A: Wel ydy, mae'n dipyn o fargen. Mmm! Ydy hi'n bosib archebu'r cylchgrawn bob mis? B: Ydy, wrth gwrs. Un funud. Beth yw'r enw? A: Ann. Ann Rhydderch. B: Diolch. Ann... Beth oedd y cyfenw eto, plîs? A: Rhydderch...
Uned 28 - N/A
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Gareth: Helô Mair, sut wyt ti ers llawer dydd? Mair: Eitha da diolch, Gareth. Rwyt ti'n edrych yn dda. Wyt ti'n rhedeg yn aml? Gareth: Ydw, dw i'n trio rhedeg bob dydd, ond dim ond ar y penwythnos dw i'n dod yma. Dw i'n mynd i'r gampfa yn y gwaith o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mair: Dw i'n dod yma bob dydd. Mae'n lle br...
Uned 28 - N/A
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Carys: Bore da Aled, sut wyt ti? Aled: Helô Carys, dw i'n iawn, diolch. Carys: Gaf i ofyn cwestiwn i ti? Pa gerdyn wyt ti'n hoffi? Yr un gyda balŵns pinc, neu'r un yma gyda chacen pen-blwydd? Aled: Dw i ddim yn siŵr, i bwy mae'r cerdyn? Carys: Mae chwaer fy mam, Anti Sali, yn wyth deg oed dydd Sadwrn. 'Dyn ni'n mynd â ...
Uned Arholiad - Cwestiwn 2 - Deialog
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Dafydd: Helô Bethan. Sut wyt ti? Wyt ti'n mynd i wneud cwrs Sbaeneg eto eleni? Bethan: Mwynheuais i'r cwrs Sbaeneg yn fawr iawn llynedd, ac ro'n i'n mynd i wneud cwrs Sbaeneg Blwyddyn 2 eleni. Ond dyw'r cwrs ddim yn mynd i redeg achos does dim digon o bobl. Dafydd: O, mae'n ddrwg gyda fi. Fel rwyt ti'n gwybod, do'n i d...
Gwaith Cartref Uned 16 - Trip Rygbi
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Mae'r clwb rygbi'n trefnu trip i weld gêm Cymru yn erbyn Ffrainc ar 18 Mawrth yn Stadiwm Caerdydd. Bws yn gadael maes parcio'r eglwys am 8.00 y bore. Cost: £60 (yn cynnwys tocyn i'r gêm a bws) £35 i blant ysgol. Tocynnau ar gael yn y clwb rygbi neu ffoniwch John ar 01234 987650. Sieciau: Clwb Rygbi Abercastell.
Gwaith Cartref Uned 16 - Cwmni Drama'r Dre
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
yn perfformio “Castell y Nos” gan Mari James yn Theatr yr Ysgol. Chwefror 24-25. Drysau'n agor am 6.30. Perfformiad yn dechrau am 7.00. Pris: £8 (£4 i blant ysgol). Tocynnau ar gael yn swyddfa'r ysgol 01234 567890.
Gwaith Cartref Uned 16 - Bore Coffi
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
i Ddysgwyr Cymraeg yn Neuadd y Dre, Abercastell (drws nesa i'r siop fara). Dydd Gŵyl Dewi, Mawrth 1af yn dechrau am 10am tan 1pm. Mae te, coffi a bisged/bara brith ar gael am ddim. Croeso i bawb!
Gwaith Cartref Uned 17 - Noson Gomedi Gymraeg
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Bar Glyndŵr, Gwesty'r Saith Seren, Bryncastell Nos Wener Gorffennaf 16 8.00 i 11.30 Gyda Twm Tomos o “Comedi Cymru” Disgo o'r 70au wedyn Mynediad: £6 yn cynnwys un ddiod Dewch i chwerthin yn Gymraeg!
Gwaith Cartref Uned 17 - Ffair Haf Melin y Cwm
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Maes chwarae Ysgol y Felin. Gorffennaf 24 Bydd seren S4C Llio Llwyd yn agor y Ffair am 10 o'r gloch. Castell Neidio, cystadleuaeth carioci, twrnament pêl-droed 5 bob ochr. Bydd lemonêd melyn, te a choffi ar werth. Mynediad am ddim i blant ysgol, £2 i oedolion. Dewch i gefnogi'r ysgol - a dewch i gael hwyl!
Gwaith Cartref Uned 17 - Dych chi'n hoffi mynd ar wyliau i Sbaen?
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Mae Gwersi Sbaeneg yn Gymraeg ar gael yma yn y dre! Gyda Ricardo Roberts o Batagonia. Dim ond £80 am 20 gwers. Hanner pris i bobl ddi-waith. Coleg Abercastell, bob nos Fercher (dim gwyliau ysgol). Yn dechrau Medi 10, o 7 i 9 o'r gloch. Croeso i bawb!
Gwaith cartref Uned 20 - 3
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Angharad: Helô, Gwyn. Wyt ti'n mynd i'r pwll? Gwyn: Nac ydw. Dw i ddim yn gallu nofio o gwbl, ond mae'r plant yn y dosbarth nofio. Angharad: Mae fy mhlant i'n dysgu nofio ar nos Lun, ond maen nhw mewn dosbarth jiwdo heno. Dyna pam dw i'n mynd i'r caffi yma. Wyt ti eisiau dod am goffi? Gwyn: Dim diolch. Dw i'n mynd i ch...
Gwaith cartref Uned 22 - Recordio Carolau Nadolig
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
Dewch i ganu! Mae cwmni teledu Arad yn recordio noson o garolau Nadolig nos Wener 8 Mehefin o 7 o'r gloch ymlaen yng Nghapel Moreia (dros y ffordd i'r ysgol gynradd). Mynediad am ddim, a phaned o de ar hanner amser. Bydd y rhaglen ar y teledu ar ddydd Nadolig eleni.
Gwaith cartref Uned 22 - Dosbarth nofio
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
Dych chi eisiau dysgu sut i nofio? Mae dosbarth bob nos Fawrth yn y ganolfan hamdden rhwng 6.00 a 7.00. Cost: £5 y sesiwn I bobl sy ddim yn gallu nofio. Tiwtor: Gwyn Jones Ffoniwch 07797 263514
Gwaith cartref Uned 22 - Bingo!
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
Dewch i chwarae Bingo yn neuadd y pentre bob nos Iau o 7.00 tan 11pm. Dych chi'n gallu ennill pum deg punt! Pris mynediad: £2 y person Aled Gwyndaf yw'r bingo-feistr. Llawer o hwyl!
Gwaith cartref Uned 23 - 4. Darllen a Deall
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Siân: Bore da, Dillad Dandi, Llanaber. Siân sy'n siarad. Gaf i helpu? Gwyneth: Cewch. Gwyneth Jones dw i. Dw i'n rhedeg y siop flodau yn Llanaber. Siân: Dw i'n gwybod. Sut dych chi, Mrs Jones? Gwyneth: Iawn, diolch. Dych chi'n gwerthu gwisg ysgol i blant Ysgol y Parc? Siân: Ydyn. Maen nhw mewn stoc yma. Pryd dych chi e...
Gwaith cartref Uned 24 - Ysgol Roc
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Dewch i gwrs gitâr gyda'r gitarydd enwog Jeff Peck. Yn Neuadd y Dre, Caellydan. Dydd Sadwrn, 31 Hydref o 10 y bore tan 5 y prynhawn. Dewch â'ch gitâr drydan. Ffoniwch Ffred Ffrimstone ar 01339 44590 am le. Pris llawn: £30
Gwaith cartref Uned 24 - Dosbarth Dawnsio Bol
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Tiwtor: Martha Jones Yng Nghanolfan Gymunedol, Brodawel. 7.00-9.00 bob nos Fercher. Dechrau: 5 Medi £50 am 5 dosbarth. Rhaid talu yn y dosbarth cynta. Ffoniwch Martha ar 01678 457492 neu e-bostiwch martha@dawnscymru.co.uk
Gwaith cartref Uned 24 - Caffi'r Groes
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Prynwch un brecwast mawr a chael un arall am ddim! Bydd y chef teledu Chris Evans, brawd Megan, yno yn y prynhawn. Dewch i gwrdd â fe!
Gwaith cartref Uned 26 - Mae Lowri a Tracy'n cwrdd yn y parc.
cy
mynediad-de-learnwelsh
dialogue-level
reference
A1
public
Lowri: Tracy! Sut mae'r hwyl? Tracy: O, ddim yn ddrwg. Mae pen tost gyda fi ar ôl bod gyda'r ddau fachgen drwy'r dydd. Lowri: Mae'n anodd, dw i'n gwybod. Dim ond un sy gyda fi, a dw i wedi blino bob dydd, drwy'r dydd! Tracy: Dw i'n gwybod. Es i i'r gwely neithiwr am wyth o'r gloch. Lowri: Dw i'n eitha lwcus. Daeth fy m...
Uned 10 - ELSA BOWEN, DITECTIF PREIFAT
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Elsa Bowen dw i. Ditectif preifat dw i. Dw i'n byw yng Nghaernarfon. Dw i'n dŵad o Gaernarfon yn wreiddiol. Dw i'n gweithio yng Nghaernarfon. Ond dw i ddim yn hoffi Caernarfon.
Uned 12 - Agor y Drws
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Dydd Mercher, 5 Mai. Dw i'n 50 heddiw. Pum deg - ofnadwy! Dw i'n hen! A dw i ddim yn ffit...
Uned 16 - Gorau Glas
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
Shwmae! Alix dw i. Dw i'n 23 oed. Dw i'n byw yn Aberglas. Dw i ddim yn enwog. Person bach dw i (dim ond 5' 1”!). Ond bob dydd dw i'n gwisgo iwnifform. Yna dw i'n codi'r radio, y cyffion, y camera, y tortsh a'r ffôn. Person newydd dw i nawr. Alix Jenkins, Heddlu Aberglas, yn mynd ar batrôl!
Uned 18 - Wynne Evans - o Gaerfyrddin i Go Compare
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
Enw: Wynne Evans Dod yn wreiddiol: o Gaerfyrddin Blwyddyn geni: 1972 Byw nawr: yng Nghaerdydd Gwaith: Tenor, cyflwynydd ar Radio Wales, Radio 3 a Classic FM Enwog iawn am fod yn: Gio Compario ar hysbysebion Go Compare Beth yw hanes y teulu? Roedd teulu Dad yn dod o Langynog, ar bwys Caerfyrddin. Ffermwyr o'n nhw. Roedd...
Uned 20 - Gangsters yn y Glaw
cy
mynediad-de-learnwelsh
paragraph-level
reference
A1
public
Elsa Bowen dw i. Ditectif preifat dw i. Dw i'n byw yng Nghaernarfon. Dw i'n dŵad o Gaernarfon yn wreiddiol. Dw i'n gweithio yng Nghaernarfon. Cofidre dw i. Dw i ddim yn hoffi Caernarfon ond mae Caernarfon yn fy ngwaed i.
Uned 22 - Ceffylau
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
March Arthur Amser maith yn ôl... Dyma'r brenin Arthur. Dyma geffyl y brenin Arthur. Llamrei ydy enw'r ceffyl. Mae o'n geffyl da. Mae o'n fawr. March ydy o - ceffyl cryf.
Uned 24 - Stryd y Bont
cy
mynediad-de-learnwelsh
document-level
reference
A1
public
Dydd Gwener, 6.12pm Mae Sioned yn cerdded drwy'r drws. Mae Rhif 1, Stryd y Bont yn dywyll, ac mae Sioned wedi blino ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith. Mae hi'n tynnu ei hesgidiau, ac yn tynnu ei chot.